Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom Ni

 

Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) De Morgannwg  yw corff gwarchod annibynnol gwasanaethau'r GIG yng Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Mae CIC De Morgannwg yn ceisio gweithio gyda'r GIG a chyrff arolygu a rheoleiddio. Rydym yn darparu dolen gyswllt bwysig rhwng y rhai sy'n cynllunio ac yn darparu gwasanaethau'r GIG, y rhai sy'n eu harchwilio a'u rheoleiddio, a'r rhai sy'n eu defnyddio.

Mae CIC De Morgannwg yn clywed gan y cyhoedd mewn sawl ffordd wahanol.  Rydym yn ymweld â gwasanaethau'r GIG er mwyn siarad â chleifion a gofalwyr. Rydym yn siarad â phobl mewn digwyddiadau cyhoeddus, a thrwy grwpiau cymunedol. 

Mae ein Gwasanaeth Eiriolaeth yn helpu pobl sydd am godi pryderon am ofal neu driniaeth y GIG.

Rydym yn defnyddio arolygon, apiau a'r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â'n cymuned.

Dilynwch ni: