Mae CIC De Morgannwg yn cynnwys 24 aelod ac mae modd ychwanegu aelodau cyfetholedig at y rhain. Mae’r aelodau hyn yn cael cefnogaeth gan 9 aelod o staff sydd wedi’u lleoli yn Swyddfa’r CIC yn Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd.
Aelodau
Penodir aelodau’r Cyngor Iechyd Cymuned gan yr Awdurdodau Lleol, Cyrff Trydydd Sector a Llywodraeth Cymru.
Mae’r nifer o aelodau a benodir wedi’i gyfyngu o fewn pob ardal leol:
Mae’r CIC yn awyddus bob amser i sicrhau mwy o amrywiaeth ymhlith yr aelodau, yn enwedig o blith grwpiau ac/neu unigolion heb gynrychiolaeth ddigonol, o fewn ardaloedd Caerdydd a Bro Morgannwg.
Aelodau Cyfetholedig
Gwirfoddolwyr yw Aelodau Cyfetholedig nad sy’n cael eu penodi gan Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector na Llywodraeth Cymru. Mae ganddynt gyfrifoldebau tebyg i Aelodau llawn, ond yr unig wahaniaeth yw nad oes hawl gan Aelodau Cyfetholedig i bleidleisio na dod yn Aelodau o Bwyllgor Gweithredol y CIC. Rydym wrthi’n brysur yn annog unigolion i ddod yn Aelodau Cyfetholedig, i fod yn glustiau a llygaid y gymuned.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio aelodau gwirfoddol newydd – os oes diddordeb gennych cysylltwch os gwelwch yn dda â Chyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg.
Ymuno â'r Tîm
Prif Swyddog
Mr Stephen Allen – E-bostiwch
Dirprwy Brif Swyddog
Miss Amy English
Rheolwr Busnes
Mrs Wendy Orrey
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chleifion
Miss Jessica Mannings
Swyddog Gweinyddol
Ms Leigh Gallacher
Eiriolwyr
Mrs Tina Easen
Mrs Caroline Harrison
Swyddog Cymorth Eiriolaeth
Gwag
Cynorthwyydd Gweinyddol
Mrs Clare Clements