Neidio i'r prif gynnwy

Corff Llais y Dinesydd newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Corff Llais Dinasyddion newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

O Ebrill 2023, bydd Corff Llais Dinasyddion newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn disodli'r Bwrdd a'r 7 Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru. Bydd y corff newydd yn adlewyrchu'r safbwyntiau ac yn cynrychioli buddiannau pobl Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yn annibynnol ar y llywodraeth, y GIG ac awdurdodau lleol ond yn gweithio gyda nhw, ac eraill, i gefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Bydd Corff Llais y Dinesydd yn:

  • gwrando ar farn y cyhoedd, ymhob rhan o Gymru, ynglŷn â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • cynorthwyo i sicrhau bod profiadau byw unigolion yn fodd o gynllunio a gwella gwasanaethau – gan ddylanwadu ar gynlluniau a pholisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • cynorthwyo i ddatblygu gwell cysylltiadau rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, unigolion a chymunedau – gan hyrwyddo llais y dinesydd sy’n gwbl gynrychioliadol
  • cefnogi pobl ledled Cymru gan roi cymorth a chyngor iddynt pan fyddant yn gwneud cwyn ynglŷn â’u gofal, neu’n ystyried gwneud hynny

Bydd Corff Llais y Dinesydd yn defnyddio ystod eang o ddulliau i feithrin cysylltiadau, gan gynnwys trafodaethau wyneb yn wyneb, er mwyn sicrhau bod barn ein cymunedau amrywiol yn cael eu canfod. Yn ogystal, bydd y corff yn rhoi cefnogaeth mewn modd sy’n gweddu orau i’r unigolyn. 

Wrth gynrychioli buddiannau’r cyhoedd, bydd Corff Llais y Dinesydd yn meithrin cysylltiadau gyda chyrff y GIG ac awdurdodau lleol pan fyddant yn datblygu, yn adolygu neu’n cynllunio newidiadau i’w gwasanaethau. Gall hyn ddigwydd drwy fod yn rhan o ymarferion ymgynghori; bod yn bresennol mewn cyfarfodydd; neu drwy gysylltu â hwy i fynegi barn ynglŷn ag agweddau penodol o’u gwasanaethau. 

Bydd angen i Gorff Llais y Dinesydd ddatblygu perthnasau effeithiol gyda sefydliadau y sectorau cyhoeddus, annibynnol a gwirfoddol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol er budd dinasyddion ac er budd y gwerthoedd a rennir.

Cymryd rhan

Bydd y Corff Llais y Dinesydd yn cael ei arwain gan ei aelodau Bwrdd, gyda thîm ymroddedig o staff ac aelodaeth amrywiol o wirfoddolwyr; gweithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru, wedi'i lywio gan yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae Corff Llais y Dinasyddion dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych i benodi Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a Chwe Aelod Anweithredol, ewch yma am fwy o wybodaeth

 

https://llaiscymru.org  

Dilynwch ni: