Neidio i'r prif gynnwy

Ap Traciwr Symptomau COVID

Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn cefnogi’r ap Traciwr Symptomau COVID-19 sydd wedi’i ddatblygu gan Goleg King’s Llundain a chwmni gwyddor gofal iechyd, ZOE.

Helpwch Lywodraeth Cymru a’r GIG i frwydro yn erbyn coronafeirws trwy roi adroddiad dyddiol am eich iechyd, hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iawn.
 
Gallwch eu helpu i ymladd coronafeirws trwy lenwi arolwg iechyd bob dydd ar yr ap tracio symptomau COVID-19. Mae’r ap hwn ar gyfer pawb, nid yn unig y rhai sydd â symptomau.

 

Bydd yr ap yn helpu Llywodraeth Cymru a’r GIG i ddeall y symptomau a sut mae COVID- 19 yn lledaenu. Trwy ateb rhai cwestiynau byr, gallwch eu helpu i gynllunio eu hymateb i coronafeirws.
 
Fydd Llywodraeth Cymru ddim yn rhannu eich atebion â neb arall heblaw am y GIG a sefydliadau dibynadwy sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG mewn ymateb i
coronafeirws.
 
Gallwch ddarllen Datganiad Y Wasg, Llywodraeth Cymru yma.
Gallwch lawrlwytho’r ap yma.
Dilynwch ni: