Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau ac Astudiaethau Achos

Yn ystod 2019-2020, cynorthwyon ni 468 o bobl i ddatrys pryderon, trwy gynnig cyngor cychwynnol, cyfeirio neu gynorthwyo pobl i ddatrys problemau’n anffurfiol.

Cynigon ni gymorth a chyngor hefyd trwy Weithdrefn Pryderon y GIG, a elwir yn Gweithio i Wella (PTR).

Fe wnaethom agor a chario 124 o achosion drosodd gan gynnig y cymorth hwn. Mae pob pryder yn wahanol, ac roedd pobl eisiau ac angen gwahanol lefelau o gymorth i ddwyn eu pryder yn ei flaen.

Helpon ni drwy esbonio’r broses pryderon, a helpu pobl i feddwl am yr hyn roeddent yn dymuno ac yn disgwyl i ddigwydd, o ganlyniad iddynt godi eu pryder. Rhoesom gymorth ymarferol i’r rhai a oedd ei eisiau, gan gynnwys helpu pobl i ysgrifennu llythyron, mynd gyda nhw i gyfarfodydd ahelpu pobl i ddeall yr wybodaeth a’r ateb a roddwyd gan sefydliadau’r GIG.

Mae eiriolaeth yn rhan annatod o swyddogaethau craidd y CIC. Darparodd ein gwaith achos wybodaeth bwysig am wasanaethau a materion y GIG, a defnyddion ni hyn i oleuo ein gweithgareddau eraill.  O ganlyniad i bryderon a godwyd gan gleientiaid, mae newidiadau’n cael eu gwneud, sydd o fudd ehangach.

Dilynwch ni: