Os oes gan glaf neu berthynas bryderon ynghylch unrhyw elfen o'r gofal a dderbyniwyd tra bod un o gleifion y GIG, yr amser gorau i godi'r rhain ar yr adeg y maent yn digwydd mewn gwirionedd. Mae Cyrff y Gwasanaeth Iechyd yn ymdrin yn rheolaidd â chwynion ar lafar ac yn aml gall atebion gael eu rhoi ar unwaith. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cwyno yn ysgrifenedig, mae angen i chi ddanfon eich pryderon i Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd perthnasol. Os ydych am fynegi pryderon neu gwyno am eich triniaeth neu'r gwasanaeth a gawsoch gan eich Meddyg Teulu, deintydd, optegydd fel arfer mae angen i chi roi hyn yn ysgrifenedig i'r Rheolwr y Practis.
Gall ein gwasanaeth eirioli cwynion eich helpu chi ar unrhyw gam ym mhroses pryderon GIG Cymru.
Codi eich pryder gyda’r darpawr gwasanaeth
Os na allwch ddatrys eich pryder yn anffurfiol, neu y byddai’n well gennych godi’ch pryder yn ffurfiol gall ein gwasanaeth eirioli cwynion eich helpu chi. Fel arfer mae angen I chi godi eich pryder cyn pen 12 mis ar ộl y digwyddiadau rydych chi am gwyno amdanynt. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd corf y GIG yn ystyried eich pryder y tu allan I’r amserlenni hyn.
Gwneud cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Os ydych chi’n anfodlon â’r ymateb terfynol a ddarparwyd gan GIG gallwch fynd â’ch cwyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC).
Gall yr Ombwdsmon ystyried cwynion a waned iddo cyn pen blwyddyn ar ộl y materion y cwynwyd a amdanynt (neu cyn pen blwyddyn ar ộl I’r achwynydd ddod yn ymwybodol o’r mater).
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â rhywbeth a ddigwyddodd fwy na blwyddyn yn ộl, ond gwnaethoch gwyno i’r Bwrdd Iechyd (neu’r Ymddiriedolaeth) cyn pen blwyddyn, dylech gwyno i’r Ombwdsmon cyn pen deuddeg wythnos ar ộl ymateb y Bwrdd Iechyd (neu Ymddiriedolaeth).