D’yw codi pryder neu ganmol ddim bob amser yn hawdd yn y GIG, â phwy y gallwch chi siarad?
Rydym yn darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol rhad ac am ddim a arweinir gan gleientiaid ac sy'n ymdrin â phob agwedd ar driniaeth a gofal GIG. Rydym yn cynnig dull gweithredu hyblyg i gwrdd ag anghenion ein cleientiaid.
Mae lefel y cymorth yn cael ei deilwra i ofynion yr unigolyn ac yn cael ei ddarparu mewn modd cyfeillgar, cyfrinachol a phroffesiynol, gan annog y GIG i ddysgu oddi wrth brofiadau cleifion ac i wneud gwelliannau lle bo angen.
Bydd ein Heiriolwyr Cwynion yn cynnig cymorth drwy:
· Eich cynghori
· Esbonio’ch opsiynau
· Eich hysbysu ynglŷn â’ch hawliau
· Eich helpu gyda gohebiaeth
· Eich cefnogi mewn cyfarfodydd
· Lleisio eich pryderon
· Cael mynediad at eich Cofnodion Meddygol
Am fwy o wybodaeth ar sut all y Gwasanaeth Eiriolaeth eich helpu, darllenwch ein Llawlyfr Eiriolaeth.
Os oes gennych unrhyw bryder am eich gofal iechyd yr hoffech ein help i’w datrys, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Eiriolaeth. Noder os gwelwch yn dda rydym yn gweithredu system apwyntiadau yn unig.
Dyluniwyd proses bryderon GIG Cymru ‘Gweithio I Wella’ i helpu pobl i leisio eu pryderon a lle bo modd, eu datrys.
Mae’n annog pobl i siarad â’u darparwr gofal iechyd a allai o bosibl gael rhywbeth yn iawn yn y fan a’r lle. Os nod ydych yn siŵr, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd I’r person iawn I siarad ag ef.
Gall ein gwasanaeth eiroli cwynion eich helpu chi ar unrhyw gam ym mhroses pryderon GIG Cymru.
- Mae’r fidio BSL yma yn esbonio mwy am Gweithio i Wella, Lleisio Pryder am y GIG yng Nghymru.