Yma fe ddowch o hyd i holl arolygon ar-lein y CIC, yn ogystal â’r adroddiadau a baratowyd o’r data a gasglwyd.
I weld arolygon a gynhelir gan eraill, cliciwch yma
Ydych chi’n gwybod pwy ddylech ffonio pan fyddwch chi’n wynebu problem iechyd nad sy’n fygythiad i fywyd?
Mae’r CIC yn casglu adborth oddi wrth y cyhoedd yng Nghaerdydd a’r Fro ynghylch pa lwybr y byddent yn ei ddilyn i gael cymorth meddygol wrth wynebu problem iechyd nad sy’n bygwth bywyd.
Mae Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg yn casglu adborth ar Wasanaethau Mamolaeth yng Nghaerdydd a’r Fro gyda’r bwriad o wneud argymhellion i’r Bwrdd Iechyd ar sut i wella gwasanaethau o safbwynt profiad y claf.
Ers i ni ofyn y tro diwethaf am adborth ar y system ymweliadau ysbyty, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi newid eu Proses Ymweld i ganiatáu 2 berson i ymweld am 1 awr y dydd, a gellir trefnu hyn trwy’r ward. Hoffem yn awr glywed gan unigolion sydd wedi defnyddio’r system ymweld newydd sydd ar waith ers hynny, er mwyn canfod eu barn, a hefyd barn poblogaeth ehangach Caerdydd a Bro Morgannwg.
Gofal y GIG tra'n byw efo Coronafirws yng Nghymru
Rhannwch eich adborth, a yw'r GIG yn dod yn well fyw gyda COVID a beth mae wed'i glygu i chi?