Mae newid yn digwydd yn y GIG bob dydd mewn ysbytai, mewn meddygfeydd ac mewn gwasanaethau cymunedol eraill. Rhaid i Fyrddau Iechyd ddweud wrth eu CIC lleol pryd maen nhw am wneud newid sy'n effeithio ar bobl. Rhaid i CICau weithio gyda'u Bwrdd Iechyd pryd bynnag y mae'n ystyried gwneud newid. Mae CICau yn cynrychioli buddiannau'r cyhoedd a chleifion. Mae CICau yn sicrhau bod sefydliadau'r GIG yn gofyn i bobl am eu barn ac yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.
Rydm yn gweithredu fel llais y cyhoedd gan adael i reolwyr y gwasanaeth iechyd i wybod beth mae pobl ei eisiau ac yn ei ddisgwyl, a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld. Rydym yn cyflawni hyn drwy ofyn am farn cleifion a’r cyhoedd am wasanaethau cyhoeddus a gwrando ar beth sydd gan unigolion a’r gymuned i’w ddweud am y gwasanaeth iechyd lleol o ran ansawdd, hygyrchedd a mynediad. Defnyddiwn yr wybodaeth yma i gyfarwyddo ein gwaith gyda’r bwrdd iechyd.
Rydm yn monitro a chraffu’r gwasanaethau iechyd i sicrhau diogelwch ac ansawdd gan weithio gyda chynllunwyr a darparwyr y gwasanaeth i wella profiadau cleifion o’r gwasanaethau. Rydym yn cyflawni hyn drwy gynnal ymweliadau di-rybudd i fonitro a chraffu ansawdd darpariaeth y gwasanaeth a’r amgylchedd ble darperir y gwasanaeth a hynny o safbwynt y claf. Defnyddiwn yr wybodaeth yma i wneud argymhellion ar gyfer gwella pan fod angen.
Mae'n rhaid ymgynghori gyda rydm am unrhyw newididau i’r gwasanaethau iechyd yn ein hardal ac rydym ninnau wedyn yn cynnwys y cyhoedd drwy ymgynghori yn lleol. Defnyddiwn yr wybodaeth yma i sicrhau fod unrhyw newidiadau estynedig yn adlewyrchu barn a disgwyliadau’r cyhoedd.
Rydm yn helpu cleifion, gofalwyr neu berthnasau i godi pryderon/cwynion am y gwasanaeth iechyd pan fo pethau yn mynd o’i le. Rydym yn cyflawni hyn drwy ddarparu gwasanaeth eiriolaeth rhad ac am ddim, annibynnol, cyfrinachol, nad yw’n un cyfreithiol, gaiff ei arwain gan y cwsmer.