Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau Gwasanaeth y GIG

Fel corff statudol, dylai fod y 7 Cyngor Iechyd Cymuned yn cael gwybod gan y GIG am bob newid sydd wedi’u trefnu neu a wneir ar frys.   

Newidiadau mewn Gwasanaethau Rhanbarthol – newidiadau mewn gwasanaethau sy’n cwmpasu nifer o ardaloedd y GIG ac sy’n effeithio ar 2 neu ragor o ardaloedd Byrddau Iechyd, e.e. canoli gwasanaethau arbenigol.

Newidiadau mewn Gwasanaethau Lleol – newidiadau mewn gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, e.e. cau practisau Meddygon Teulu.

Ein nod wrth ymwneud â’r newidiadau arfaethedig i wasanaethau yw sicrhau bod barn y cyhoedd a’r cleifion yn allweddol yn y broses, a hynny ar lefel leol a rhanbarthol, ac y bydd yr effaith ar ddefnyddwyr y gwasanaeth mor gadarnhaol ag y bo modd.

Mae penderfyniadau’r Cyngor Iechyd Cymuned i gefnogi neu wrthod cynigion am newidiadau yn cael eu gwneud yn ein Pwyllgorau Cynllunio Gwasanaethau a’n Pwyllgorau Gweithredol.  Mae’r Pwyllgorau hyn yn agored i’r cyhoedd gan hyrwyddo tryloywder a bodloni Safonau Cenedlaethol CICau Cymru Gyfan. 

Lle bo angen, mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn sicrhau bod fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori cyhoeddus yn cael ei ddilyn. 

 Ar hyn o bryd, rydym ynghlwm wrth y newidiadau canlynol mewn gwasanaethau:

 

Newidiadau mewn Gwasanaethau Lleol

Newidiadau mewn Gwasanaethau Rhanbarthol

Llunio ein Gwasanaethau Clinigol


Yn ymgysylltu â’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Gwasanaethau Fasgwlar De Ddwyrain Cymru

Yn ymgysylltu â’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Ailadeiladu Meddygfa Pentyrch

 

Cau Canolfan Feddygol Saltmead

 

Cau Meddygfa Heol Albert

 

 

Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw newidiadau yn y gwasanaethau hyn, cysylltwch â ni: 

Dilynwch ni: